Questions about MS? Call us on 0808 800 8000
Two people holding coffee cups and smiling

Cyngor Cymru – Adolygiad o 2020 a Chynllun Blynyddol 2021

Mae Cyngor Cymru yn llais i’n cymuned ar draws Cymru, ac mae’n gweithredu fel llysgennad ac eiriolwr i bobl y mae MS yn effeithio arnynt.

Cymraeg | English

Bob blwyddyn, mae Cyngor Cymru yn creu cynllun blynyddol o weithgareddau i helpu i gyflawni ein strategaeth ac i glywed yr hyn sydd bwysicaf i’n cymuned MS yng Nghymru. Mae Kath Foot (Cadeirydd y Cyngor) yn mynychu cyfarfodydd Bwrdd chwarterol i adrodd ar gynnydd y Cyngor ac i godi’r materion sy’n bwysig yng Nghymru. Mae Kath hefyd yn eistedd ar Bwyllgor Enwebiadau’r Bwrdd sy’n goruchwylio’r gwaith o recriwtio a datblygu ein Bwrdd a’n Cynghorau.

Edrych yn ôl ar 2020

Yn ystod 2020, bu Cyngor Cymru yn gweithio’n agos â staff Cymdeithas MS Cymru a gwirfoddolwyr grwpiau lleol i symud ein gweithgaredd lleol ar-lein. Fe wnaethom helpu’r tîm staff i gyflwyno ceisiadau ymateb i COVID i ariannu sesiynau llesiant ar-lein gan gynnwys sesiynau cymdeithasol ac ymarfer corff wythnosol. Fe wnaethom hefyd helpu’r Tîm Gweithredol i wneud newidiadau mawr yn strwythur a gweithgaredd y sefydliad yn dilyn gostyngiad sylweddol mewn incwm oherwydd COVID, a sicrhaom fod anghenion y gymuned MS yn cael eu rhoi’n gyntaf wrth wneud y newidiadau hynny. 

Cyngor Cymru yn 2021

Yn ystod 2021, bydd Cyngor Cymru yn canolbwyntio ar helpu ein rhwydwaith o grwpiau i ailgydio mewn gweithgareddau wyneb yn wyneb yn eu cymunedau cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny, a gweithredu newidiadau yn ein strwythurau staff a wnaed yn 2020 oherwydd COVID. Byddwn yn cyfrannu at weithgareddau dylanwadu yn y cyfnod cyn etholiadau Senedd Cymru ac yn cysylltu â’r llywodraeth newydd ac aelodau newydd y Senedd ar ôl yr etholiad i sicrhau bod gennym eiriolwyr cadarn dros bobl sy’n byw gydag MS yn y Senedd. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi ein Hapêl Stopio MS drwy godi arian ac ymgynnull y gymuned MS.