Questions about MS? Call us on 0808 800 8000
A woman typing on a laptop

Sut mae gwneud cais

Dysgwch sut mae cyflwyno eich cais i fod yn aelod neu’n gadeirydd y cyngor cenedlaethol 

Cymraeg | English 

Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais, defnyddiwch y gofod sy’n cael ei ddarparu i egluro sut byddai eich sgiliau, eich profiad a’ch gwybodaeth (gwaith cyflogedig, gwirfoddoli a phrofiad personol) yn eich helpu yn y rôl hon. Dywedwch wrthym hefyd pam mae gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, gan gynnwys unrhyw gysylltiad personol sydd gennych ag MS a MS Society. Byddwn hefyd yn gofyn am fanylion dau ganolwr a all ddweud wrthym pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl hon. 

Bydd eich cais yn cael ei ystyried gan banel recriwtio. Bydd y panel yn dilyn ein proses safonol i lunio rhestr fer, a bydd hyn yn eu helpu i benderfynu a ddylid eich gwahodd i gyfweliad ar-lein. Os bydd eich cyfweliad yn llwyddiannus, bydd y panel yn argymell eich bod yn cael eich penodi, a byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr. 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm ddydd Sul 29 Hydref. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl hon neu os nad ydych chi’n gallu gwneud cais ar-lein, cysylltwch â’n Swyddog Gweithredol a Llywodraethu drwy anfon e-bost at [email protected]. 

à Gwnewch gais i ymuno â chyngor cenedlaethol