Ein Maniffesto MS: Etholiad Senedd Cymru 2026
Mae ein maniffesto yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ymrwymo i greu dyfodol tecach ac iachach i bobl sydd ag MS.
Cymraeg | English
Mae hyn yn cynnwys cynyddu nifer y niwrolegwyr, nyrsys arbenigol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, er mwyn i bawb allu cael y gofal mae arnyn nhw ei angen. Mae hefyd yn golygu dod â’r loteri cod post i ben drwy weithredu’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn llawn. A sicrhau bod gofal yn deg ac yn gyson lle bynnag rydych chi’n byw.
Rydyn ni hefyd yn gofyn am gynyddu mynediad at wasanaethau adsefydlu niwrolegol ac iechyd meddwl. Ochr yn ochr â mwy o fuddsoddiad mewn gofal niwrolegol a chymorth cymdeithasol – gan gynnwys cymorth hanfodol i ofalwyr di-dâl.
Dyfodol tecach i bobl sy’n byw gydag MS
Mae pobl sy’n byw gydag MS yn cael eu gadael ar ôl. Maen nhw’n wynebu amseroedd aros hir i weld arbenigwyr, diffyg cymorth ar gyfer iechyd meddwl, a straen ariannol oherwydd costau ychwanegol. Rhaid i bwy bynnag fydd yn ffurfio’r Llywodraeth nesaf ymrwymo i wella gofal niwrolegol a mynediad at driniaethau.
Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol tecach ac iachach i bawb y mae MS yn effeithio arnynt yng Nghymru.