Etholiad Senedd Cymru: Am beth ydw i’n pleidleisio, a beth sydd wedi newid? 

Bydd etholiad y Senedd ym mis Mai 2026 yn cynnwys newidiadau pwysig i'r ffordd mae pobl yng Nghymru yn cael eu cynrychioli, a sut mae pobl yn pleidleisio.

English | Cymraeg

Mae’r dudalen hon yn egluro beth sy’n wahanol, gan gynnwys newidiadau i nifer yr Aelodau o’r Senedd, etholaethau newydd, a system bleidleisio newydd.

Does dim angen i chi ddeall yr holl newidiadau hyn er mwyn cymryd rhan yn yr etholiad. Ond mae gwybod yr hanfodion yn gallu eich helpu i deimlo’n fwy hyderus ynghylch defnyddio eich pleidlais.

Beth fydd yn cael ei benderfynu yn yr etholiad hwn?

Pwrpas yr etholiad yw penderfynu ar y 96 Aelod o’r Senedd a fydd yn gwneud penderfyniadau ar faterion datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys pethau fel sut mae’r GIG yn cael ei redeg yng Nghymru, a pha gymorth ariannol sydd ar gael i ofalwyr di-dâl. 

Bydd yr etholiad yn penderfynu: 

  • pa blaid neu bleidiau sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru
  • pwy ddaw’n Brif Weinidog
  • pa bleidiau fydd â chynrychiolwyr yn y Senedd 

Dyma mae angen i chi ei wybod

96 Aelod: Ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 Aelod yn hytrach na 60.

System bleidleisio newydd: Bydd gan bawb sydd dros 16 oed un bleidlais, a byddant naill ai’n dewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.

Etholaethau newydd: Bydd gan Gymru 16 etholaeth. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod o’r Senedd.

Rheolau newydd: Rhaid i unrhyw un sy’n sefyll mewn etholiad fod yn byw yng Nghymru.

Sut mae’r system bleidleisio newydd yn gweithio?

Bydd aelodau nawr yn cael eu hethol gan ddefnyddio system o’r enw cynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig.

Bydd gennych un bleidlais, a chewch bleidleisio dros naill ai plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. Er y byddwch yn pleidleisio dros naill ai un blaid neu ymgeisydd annibynnol, ar ôl yr etholiad bydd eich etholaeth yn cael ei chynrychioli gan 6 Aelod o’r Senedd. Mae’n debygol y bydd yr Aelodau hynny’n dod o fwy nag un blaid wleidyddol.

Bydd y pleidiau gwleidyddol yn darparu rhestr o hyd at wyth ymgeisydd, wedi’u rhestru yn y drefn y mae’r blaid am iddynt gael eu hethol. Byddwch chi’n gweld enwau a threfn yr ymgeiswyr ar eich papur pleidleisio. Allwch chi ddim newid y drefn hon. Dim ond dros naill ai’r blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol o’ch dewis y cewch chi bleidleisio.

Bydd seddi’r Senedd yn cael eu dyrannu gan ddefnyddio fformiwla D’Hondt. Y fformiwla hwn fydd yn pennu faint o seddi y bydd pob plaid yn eu hennill ar sail eu cyfran o’r bleidlais. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn cael digon o bleidleisiau, bydd yn cael un o’r chwe sedd sydd ar gael yn eich etholaeth.

Tymhorau byrrach i’r Senedd

O 2026 ymlaen, bydd etholiadau cyffredinol y Senedd yn symud o gylch pum mlynedd i gylch pedair blynedd. Mae hyn yn golygu y dylai’r etholiad nesaf ar ôl 2026 gael ei gynnal yn 2030.

Defnyddio eich pleidlais yng Nghymru

Rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio er mwyn gallu pleidleisio yn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos, ddydd Llun 20 Ebrill 2026. 

Gallwch ddarllen mwy am sut mae cofrestru i bleidleisio, dulliau pleidleisio hygyrch, a’r gwahanol ffyrdd y gallwch chi bleidleisio