Gweithredu dros MS : Etholiad Senedd Cymru 2026
Rhaid i Lywodraeth newydd Cymru ymrwymo i weledigaeth sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd niwrolegol, ac sy’n buddsoddi yn y gwasanaethau mae ein cymuned yn dibynnu arnyn nhw.
Cymraeg | English
I bobl sy’n byw gydag MS, mae’r hyn sy’n digwydd nesaf yn bwysig iawn. Dyna pam rydyn ni’n galw am well gofal niwrolegol a gwelliannau parhaol i wasanaethau iechyd a gofal.
Drwy lofnodi i gefnogi’r Maniffesto MS, byddwch yn ymuno â phobl ledled Cymru i anfon neges glir. Ni ellir anwybyddu MS. Byddwn yn cyflwyno’r neges hon yn uniongyrchol i’r llywodraeth wrth gyflwyno ein Maniffesto MS.
Rydyn ni’n sicrhau na ellir anwybyddu MS wrth i benderfyniadau gael eu gwneud ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.
Gyda’n gilydd, rydyn ni’n galw ar Lywodraeth newydd Cymru i:
- Weithredu Cynllun Gweithlu Niwrolegol i gynyddu nifer y niwrolegwyr, nyrsys arbenigol a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol ledled Cymru.
- Dod â’r loteri cod post i ben, a gweithredu’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn llawn fel nad yw gofal yn cael ei bennu gan eich cyfeiriad.
-
Gwella adsefydlu niwrolegol drwy gynyddu mynediad at wasanaethau adsefydlu niwrolegol a gwasanaethau iechyd meddwl hanfodol.
-
Buddsoddi mewn gofal drwy gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau niwrolegol a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl sy’n byw gydag MS a gofalwyr di-dâl.
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol tecach ac iachach i bobl sy’n byw gydag MS yng Nghymru.