Defnyddio eich pleidlais yng Nghymru

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 7 Mai 2026. Dyma mae angen i chi ei wybod os ydych chi eisiau pleidleisio. 

Cymraeg | English

Mae’r etholiad yn gyfle pwysig i ni gael dweud ein dweud ar y materion sy’n bwysig i ni. Mae’n gyfle i ddweud pwy rydyn ni eisiau i’n cynrychioli yn y Senedd.

Ond os ydych chi eisiau pleidleisio, mae rhywfaint o bethau pwysig y mae angen i chi eu gwneud. Isod gallwch ddod o hyd i wybodaeth am bwy sy’n cael pleidleisio, sut mae cofrestru i bleidleisio, a ffyrdd o bleidleisio.

Beth fydd yn cael ei benderfynu yn yr etholiad hwn?

Pwrpas yr etholiad yw penderfynu ar y 96 Aelod o’r Senedd a fydd yn gwneud penderfyniadau ar faterion datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys pethau fel sut mae’r GIG yn cael ei redeg yng Nghymru, a pha gymorth ariannol sydd ar gael i ofalwyr di-dâl.

Bydd yr etholiad yn penderfynu:

  • pa blaid neu bleidiau sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru
  • pwy ddaw’n Brif Weinidog
  • pa bleidiau fydd â chynrychiolwyr yn y Senedd

Pwy sy’n cael pleidleisio?

Cewch bleidleisio yn etholiadau Cymru, os ydych chi: 

  • Yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad
  • Yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gwyddelig neu’n ddinesydd o’r Gymanwlad, neu’n wladolyn tramor cymwys sydd wedi cael caniatâd i aros yn y DU 
  • Wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru 
  • Yn ddinesydd o’r Undeb Ewropeaidd (UE) 

Rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio er mwyn gallu pleidleisio ar y diwrnod. Does neb yn cael ei gofrestru’n awtomatig i bleidleisio. Os nad ydych chi erioed wedi cofrestru, os ydych chi wedi symud yn ddiweddar neu os ydych chi wedi newid eich enw neu’ch cenedligrwydd, bydd angen i chi gofrestru.

Sut ydw i’n cofrestru i bleidleisio?

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd eleni yw hanner nos, ddydd Llun 20 Ebrill 2026.

I bleidleisio yn yr etholiad, rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio. Nid yw pleidleiswyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig. Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru. Ond os ydych chi wedi newid eich cyfeiriad, eich enw neu’ch cenedligrwydd, bydd angen i chi gofrestru eto, hyd yn oed os ydych chi wedi cofrestru o’r blaen. Ac os dyma’ch etholiad cyntaf, bydd angen i chi gofrestru am y tro cyntaf.

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein neu bostio ffurflen bapur i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol. 

I gofrestru ar-lein ewch i’r wefan, sgroliwch i lawr a chlicio’r botwm gwyrdd “Dechrau nawr”. Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch chi i gwblhau’r broses.

I gofrestru drwy ddefnyddio ffurflen bapur, mae gennych ddau opsiwn:

Gall eich swyddfa Cofrestru Etholiadol leol eich helpu os oes angen cymorth arnoch i gofrestru i bleidleisio.

A oes rheolau ynghylch dulliau adnabod pleidleiswyr?

Does dim angen ID â llun i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Yng Nghymru, dim ond ar gyfer etholiadau Senedd y DU y mae angen ID â llun. 

Sut galla i bleidleisio?

I rai ohonom, gallai fod yn anodd cyrraedd gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Felly, mae tair ffordd y gallwn ni bleidleisio. Does dim rhaid talu i bleidleisio, ac ni chodir tâl am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, drwy’r post, na thrwy ddirprwy. 

Pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor ddydd Iau 7 Mai, rhwng 7am a 10pm.

Bydd cerdyn pleidleisio yn cael ei anfon atoch drwy’r post cyn yr etholiad, a fydd yn dweud wrthych ble mae eich gorsaf bleidleisio.

Rhaid i chi bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio sydd wedi’i nodi ar eich cerdyn pleidleisio, ond does dim angen i chi fynd â’ch cerdyn pleidleisio gyda chi i bleidleisio.

Swyddogion Canlyniadau sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr etholiad yn mynd rhagddo’n hwylus mewn ardal leol. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae ganddyn nhw ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar unrhyw rwystrau sylweddol y gallai pobl anabl eu hwynebu wrth bleidleisio.

Roedd Deddf Etholiadau 2022 yn diweddaru’r rheolau er mwyn gwneud darpariaethau i gynorthwyo pleidleiswyr dall, pleidleiswyr sy’n gweld yn rhannol, a phleidleiswyr anabl eraill mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae hyn yn berthnasol ar draws y DU.

Dywed y Comisiwn Etholiadol y dylid cynorthwyo pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio drwy ddarparu:

  • goleuadau priodol
  • bathodynnau sy’n dangos pwy yw staff yr orsaf bleidleisio
  • cadeiriau/seddi
  • chwyddwydrau
  • gripiau pensil
  • bwth pleidleisio ar lefel cadeiriau olwyn
  • rampiau (ar gyfer adeiladau â grisiau)
  • dyfais bleidleisio gyffyrddol
  • systemau rhybuddio dros dro neu glychau drws dros dro ar gyfer unrhyw ddrysau sy’n gorfod aros ar gau yn ystod y dydd (er enghraifft, drysau tân)

Cymorth i farcio'ch papur pleidleisio

Os yw’n anodd i chi farcio eich papur pleidleisio ar eich pen eich hun oherwydd eich MS, gallwch ddod â rhywun gyda chi i’r orsaf bleidleisio i helpu. Rhaid i’ch cydymaith fod dros 18 oed, ac mae’n gorfod llenwi ffurflen datganiad cydymaith. Gallwch ofyn am y ffurflen hon yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

Pleidleisio drwy'r post

Os yw’n anodd cyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallwch bleidleisio drwy’r post. Does dim angen i chi roi rheswm dros bleidleisio drwy’r post. Mae llawer o bobl yn dewis pleidleisio drwy’r post.  Efallai eich bod oddi cartref, neu efallai na fyddwch yn gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Ond, rhaid i chi wneud cais ymlaen llaw.

Os ydych chi eisiau pleidleisio drwy’r post, rhaid i chi wneud cais am bleidlais bost erbyn 5pm, ddydd Mawrth 21 Ebrill 2026.

Rhaid i chi argraffu a llenwi ffurflen gais am bleidlais bost a’i hanfon i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol. Os na allwch chi argraffu ffurflen, gall eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol anfon un atoch drwy’r post.

Bydd pecynnau pleidleisio drwy’r post yn cael eu hanfon cyn diwrnod y bleidlais, a rhaid eu llenwi a’u dychwelyd erbyn y dyddiad cau a ddangosir.

Pleidleisio drwy ddirprwy 

Os na allwch chi’n bersonol bleidleisio, mae’n bosibl y gallwch ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan. Mae hyn yn cael ei alw’n bleidleisio drwy ddirprwy. Dim ond mewn rhai amgylchiadau y cewch bleidleisio drwy ddirprwy, fel bod i ffwrdd ar ddiwrnod y bleidlais, bod yn yr ysbyty, bod â phroblem feddygol, neu fod yn anabl.  

Os ydych chi eisiau pleidleisio drwy ddirprwy, rhaid i chi wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy erbyn 5pm, ddydd Mawrth 28 Ebrill 2026. 

Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy drwy lenwi’r ffurflen hon: Cais i bleidleisio drwy ddirprwy yng Nghymru mewn etholiad penodol, a phostio’r cais i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau hwn, mae’n bosibl y gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng. Gallwch wneud cais hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. Mae gwefan y llywodraeth yn cynnwys rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng

Newidiadau i etholiadau yng Nghymru

Mae nifer o newidiadau’n dod i rym ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, fel mwy o aelodau a newidiadau i etholaethau.

Ar ein gwefan gallwch ddarllen mwy am yr holl newidiadau sy’n digwydd. (Needs link to Welsh version, What am I voting for and what's changed?)