Etholiad Senedd Cymru 2026 

Bydd etholiad Senedd Cymru yn cael ei gynnal ar 7 Mai 2026. Mae’r etholiad hwn yn gyfle hollbwysig i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.  

Cymraeg | English

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pwy bynnag sy’n ffurfio’r llywodraeth nesaf yn ymrwymo i greu dyfodol tecach ac iachach i bobl sydd ag MS yng Nghymru.

Gwnewch yn siŵr bod eich llais chi’n cael ei glywed drwy weithredu i roi MS ar yr agenda. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i allu defnyddio eich pleidlais.

Sut mae sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed:

  • Ewch ati i gael gwybod sut mae cofrestru i bleidleisio, y dyddiadau cau pwysig, a’r gwahanol ffyrdd y gallwch chi bleidleisio
  • Darllenwch ein Maniffesto MS, sy’n galw am welliannau i ofal iechyd a gwelliannau i iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl sy’n byw gydag MS
  • Llofnodwch yr addewid i gefnogi Maniffesto MS ac i roi MS ar yr agenda