Cynghorau cenedlaethol
Mae ein cynghorau ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn gweithio ar ran pobl y mae MS yn effeithio arnyn nhw ym mhob un o wledydd y DU.
Cymraeg | English
Fel arfer, mae gan bob cyngor cenedlaethol 12 aelod (15 yn Lloegr). Maen nhw’n gyswllt allweddol ym mhob gwlad rhwng y Bwrdd a’r gymuned MS, yn ogystal â rhoi naws genedlaethol i’n strategaeth ar gyfer y DU gyfan.
Mae aelodau ein cynghorau’n cyfrannu at ddatblygu ein strategaeth, yn datblygu cynlluniau blynyddol, yn gweithredu fel llysgenhadon, ac yn hyrwyddo, datblygu a chefnogi gwirfoddolwyr.
Maen nhw’n atebol yn y pen draw i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Aelodau, Cynghorau Cenedlaethol
Rydyn ni’n chwilio ar hyn o bryd am bobl i ymuno â’n Cynghorau Cenedlaethol. Mae ein Cynghorau Cenedlaethol yn ein helpu i gyrraedd ymhellach yn y gymuned MS ym mhob un o wledydd y DU, gan weithredu fel llysgenhadon dros ein hachos a galluogi pobl y mae MS yn effeithio arnyn nhw i rannu’r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae cynghorau’n helpu i gyflawni ein strategaeth a’n cynlluniau cenedlaethol, ac yn cyfrannu at ddealltwriaeth y Bwrdd o flaenoriaethau a materion sy’n ymwneud yn benodol â’r wlad.
Darganfod mwy am ymuno â'n Cynghorau Cenedlaethol
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm, ddydd Sul 29 Hydref 2023.