Cyngor Cymru
Mae aelodau'r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â'n tîm staff yng Nghymru, yn ogystal â'n grwpiau lleol i atal MS.
Cymraeg | English
Mae'r Cyngor yn atebol yn y pen draw i' Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Dyddiadau cyfarfodydd
Dyddiadau ein cyfarfodydd ar gyfer 2024 yw:
- Dydd Sadwrn 2 Mawrth
- Dydd Sadwrn 15 Mehefin
- Dydd Sadwrn 7 Medi
- Dydd Sadwrn 9 Tachwedd
Mae cyfarfodydd (ac eithrio eitemau cyfrinachol achlysurol) yn agored i aelodau’r MS Society Cymru. Os hoffech chi ymuno â chyfarfod Cyngor Cymru ar-lein, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at eateam.mssociety.org.uk [email protected]
Aelodau’r cyngor
Susannah Robinson (Cadeirydd)
Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â grŵp Gwynedd a Mon o'r Gymdeithas MS ers bron i ugain mlynedd ers i gydweithiwr da iawn gael diagnosis o MS. Gwelais a theimlais o lygad y ffynnon yr effaith enfawr a gafodd hyn nid yn unig arno ond ar deulu a ffrindiau hefyd.
Yn ystod fy nghyfnod gyda’r grŵp rwyf wedi bod, ar wahanol adegau, yn drysorydd a chydlynydd yn ogystal â chymryd rhan fawr mewn cefnogaeth. Rwyf wedi arwain datblygiad y grŵp o gyfarfod unwaith y mis yn unig i gael gweithgareddau dair neu bedair gwaith yr wythnos.
Er fy mod yn dal i ddymuno parhau i fod yn egnïol yn lleol, mae'r amser bellach yn iawn imi fynd â'm gwirfoddoli gam ymhellach a cheisio dod yn aelod o Gyngor MS Cymru, gan roi llais, yn benodol, i'r rheini yng ngogledd-orllewin Cymru tra hefyd gallu cyfrannu at ddatblygiad gwasanaethau yng Nghymru yn gyffredinol.
Dros y blynyddoedd yn ychwanegol at fy mhrofiad personol a chyswllt â'r rhai ag MS, rwyf wedi gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol MS, gweithwyr cymdeithasol, OTs ac aelodau o staff MS Cymru gan fy ngalluogi i weld a gweithio o lawer o onglau.
Ebost: [email protected]
Marion Davies
Is-cadeirydd
Cefais ddiagnosis o MS ym 1997 ac rwyf wedi byw ers hynny gyda phroblem blinder.
Rwyf wedi datblygu ystod o ymatebion i bobl ystyrlon sy'n dweud - o ie, dwi'n blino hefyd. Rwy'n defnyddio hwn fel cyfle i hysbysu pobl am MS a'r ystod amrywiol o symptomau, a gwaith y Gymdeithas MS wrth helpu pobl ag MS ac y mae MS yn effeithio arnynt.
Rwyf bellach wedi ymddeol yn hapus ac mae gennyf yr amser i gefnogi a helpu achosion yr wyf yn teimlo'n angerddol yn eu cylch. Rwy’n falch iawn o fod yn aelod o Gyngor Cymru a byddaf yn cyfrannu ym mha bynnag ffordd y gallaf tuag at y weledigaeth o fyd sy’n rhydd o effeithiau.
Ebost: [email protected]
Rhys Jenkins
Rwy’n fargyfreithiwr sy’n ymarfer yn bennaf ym maes Cyfraith Teulu a Chyfraith Troseddol. Cefais ddiagnosis o MS atglafychol ym mis Mawrth 2019.
Mae gen i lawer o brofiad o gynrychioli barn pobl eraill ac mae gen i brofiad o fod yn ymddiriedolwr gydag elusennau cynrychioliadol mawr yng Nghymru. Er fy mod yn byw yng Ngwlad yr Haf gyda fy nheulu, rydyn ni’n dychwelyd yn rheolaidd i Gaerdydd (pan mae amser yn caniatáu!) ac yn cynnal llawer o gysylltiadau â sefydliadau a phobl ledled Cymru.
Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau i sicrhau bod y Cyngor wir yn cynrychioli’r rheini sy’n byw gydag MS yng Nghymru, ac yn eirioli drostyn nhw’n effeithiol.
Ebost: [email protected]
Daf Wyn
Shwmai! Cefais ddiagnosis o RRMS yn 2021 yn dilyn salwch byr a chyfnod yn yr ysbyty.
Yn dilyn dwy driniaeth Lemtrada (alemtuzumab) yn Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd dwi’n benderfynol o godi ymwybyddiaeth o MS a bod yn rhan o’r tîm mawr sy’n ceisio rhoi STOP ar MS.
Fel cyflwynydd ar S4C, dwi’n gobeithio defnyddio fy llais yno ar ran rheiny sy’n byw gydag MS. Mae’n anrhydedd cael bod yn aelod o Gyngor Cymru.
Ebost: [email protected]
Valerie Simmons
Cefais symptomau am flynyddoedd lawer cyn cael diagnosis o MS atglafychol yn 2008, ac yn fwy diweddar, mae wedi dod yn MS cynyddol eilaidd sy’n gwaethygu. Rwyf yn aelod o’n grŵp lleol yng Nghonwy a Gogledd Sir Ddinbych ers 2008, ond gan fy mod yn gweithio’n amserllawn, dim ond eu dosbarthiadau ymarfer corff y gallwn eu mynychu. Rhoddais sgwrs hefyd yng nghynhadledd Cymdeithas MS Society Gogledd Cymru ar “Gweithio gydag MS”.
Pan ymddeolais yn gynnar yn 2018, dechreuais ymwneud mwy â’r grŵp, ac ers mis Awst 2018, rwyf yn gydlynydd y grŵp. Rwyf wrth fy modd gyda fy rôl ar y tîm cydlynu ac rwy’n teimlo’n freintiedig iawn fy mod bellach yn aelod o Gyngor Cymru hefyd.
Ebost: [email protected]
Thomas Leahy
Cefais diagnosis o Sglerosis ymledol gweithredol yn mis Chwefror, 2022 ar ol I mi gael atglafychiad sylweddol o mis Medi 2021.
Roedd yr MS Society yn Ngymru ar DU yn gymorth enfawr I mi er mwyn deallt pethau a cael fy mhen o gwmpas popeth I wneud efo MS. Wnaethin nhw hefyd helpu fy nheuly I ddeall beth oedd yn digwydd. Rydw I nawr yn ddiolchgar fy mod I ar therapi addasu clefyd, a nid ywr ‘MS Hug’ yn effeithio ar fy mywyd mor gymaint ac or blaen.
Dwi’n gweithio fel darlithydd mewn astudiaethau Prydain a Iwerddon yn ysgol llywodraeth ar gyfraith yn mhrifysgol Gaerdydd. Yn fy amser thydd, dwi’n mwynhau cerdded, pel-droed, gwrando I gerddoriaeth a dysgu Cymraeg.
Dwi wrth fy modd I fod yn aelod or Cyngor Cymru ac I rhannu fy mhrofiadau arbenning or gwasanaethau MS yn Nghaerdydd a Abertawe, ond yn fwyagf bwysig I siarad a rhannu barn y gymuned MS eang yn Nghymru I wneud y gwasanaethau y gorau y gallent fod. Dwi’n edrych ymlaen I adael y gymuned eang and MS hefyd.
Ebost: [email protected]
Anne Jones
Dechreuodd fy mhrofiad o MS pan gafodd fy mrawd ddiagnosis o MS sy'n gwaethygu'n raddol o'r dechrau'n deg heb unrhyw gyfnodau o wella o gwbl (primary progressive MS). Cyn hynny, doeddwn i ddim yn gwybod bod gwahanol fathau o MS na sut effaith y gallai ei chael ar bobl a’u teuluoedd. Cafodd fy mrawd gymorth gan y grŵp MS lleol ac ymunai â’u cyfarfodydd o bryd i’w gilydd. Roeddwn i hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â’r cydlynydd lleol yng Ngwynedd ac roedd y gefnogaeth a’r cyfle i sgwrsio yn werthfawr iawn. Mae’n anrhydedd i mi fod yn rhan o’r Cyngor ac rwy’n edrych ymlaen at wneud pob ymdrech i godi ymwybyddiaeth o MS, yn ogystal â chefnogi a gwrando ar y gymuned MS.
Ebost: [email protected]
Catriona Fearn
Fe wnes i hyfforddi fel Therapydd Galwedigaethol yn Glasgow a symud o’r Alban, fy ngwlad enedigol, i weithio yng Ngogledd Cymru am ryw flwyddyn. Ond cwrddais â fy ngŵr, Ian, ac rydw i bellach wedi bod yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru ers 37 o flynyddoedd!
Yn ddiweddar, fe wnes i ymddeol o’r swydd y bûm ynddi am dros 16 mlynedd, fel Therapydd Galwedigaethol Arbenigol ar gyfer MS. Roeddwn yn aelod o gyngor MS Cymru rhwng 2009 a 2015. Ond, gan fy mod i wedi ymddeol erbyn hyn, rwy’n gobeithio ymwneud mwy â’r Gymdeithas MS. Rydw i eisiau rhoi’n ôl i’r gymuned MS a oedd yn gefnogol iawn i’m gwaith fel therapydd galwedigaethol arbenigol ar gyfer MS.
Ebost: [email protected]
Dod yn aelod o'r Cyngor Cenedlaethol
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i ymuno â'n cynghorau cenedlaethol. Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn popeth a wnawn. Byddech chi'n ymuno â thîm ymroddgar iawn o arwyr bob dydd, gan weithio i wireddu ein gweledigaeth.
Gallwch wneud cais am swyddi gwag yn ein cynghorau cenedlaethol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.