Questions about MS? Call us on 0808 800 8000
A woman typing on a laptop

Gwybodaeth am y swydd hon - aelod o’r cyngor

Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n cynghorau cenedlaethol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. 

Cymraeg | English

Mae ein cynghorau cenedlaethol yn ein helpu i gyrraedd ymhellach yn y gymuned MS ym mhob un o wledydd y DU, gan weithredu fel llysgenhadon dros ein hachos a galluogi pobl y mae MS yn effeithio arnyn nhw i rannu’r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae cynghorau’n helpu i gyflawni ein strategaeth a’n cynlluniau cenedlaethol, ac yn cyfrannu at ddealltwriaeth y Bwrdd o flaenoriaethau a materion sy’n ymwneud yn benodol â’r wlad.

Mae gan y rhan fwyaf o aelodau cynghorau gysylltiad personol ag MS, naill ai oherwydd eu bod yn byw gydag MS eu hunain neu oherwydd bod rhywun sy’n agos at eu calonnau yn byw gyda’r clefyd. Os cewch eich penodi, byddwn yn disgwyl i chi rannu ein gwerthoedd a chael dealltwriaeth o MS, neu fod yn barod i ddatblygu dealltwriaeth ohono. Mae rôl aelod o’r cyngor yn wirfoddol, ac mae’n ddi-dâl.

Darllenwch ein cynlluniau a’n hadolygiadau blynyddol

Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi yng nghynlluniau blynyddol ein cynghorau cenedlaethol ar gyfer 2023.

à Cynllun Blynyddol Cyngor Cymru  (PDF 148KB)

à Cynllun Blynyddol Cyngor Lloegr (PDF, 165 KB) 

à Cynllun Blynyddol Cyngor Gogledd Iwerddon (PDF, 167 KB)

à Cynllun Blynyddol Cyngor yr Alban (PDF, 260 KB)

Ai dyma’r rôl i chi?

Hoffem ni glywed gennych chi os:

  • rydych chi’n gweithio’n dda mewn tîm 

  • rydych chi’n gyfforddus yn cyfathrebu ag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau

  • rydych chi’n rhannu ein hymrwymiad i ddeall beth sydd bwysicaf i bobl y mae MS yn effeithio arnynt yn eich gwlad

Mae ein cynghorau cenedlaethol yn falch o arwain drwy esiampl, ac yn rhoi profiad uniongyrchol o MS wrth galon popeth a wnawn. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bobl sydd â chysylltiad personol ag MS.

à Llwythwch ein disgrifiad o rôl Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol i lawr  (PDF, 34 KB)

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant

Mae MS pawb yn wahanol. Ac mae gan bob un ohonom brofiadau byw gwahanol yn dibynnu ar ble rydyn ni’n byw, ein rhywedd, ein rhywioldeb neu ein treftadaeth. Does dim un ateb a wnaiff y tro i bawb. 

Ond mae grwpiau o bobl yn ein cymuned MS sy’n cael eu tangynrychioli ac sydd ddim yn cael eu cefnogi’n ddigonol yn ein gwaith. 

  • pobl iau ag MS 

  • pobl LHDTCRA+ 

  • pobl â threftadaeth Ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig 

  • pobl ag MS datblygedig a’r bobl sy’n gofalu amdanyn nhw 

Rydym eisiau i bawb deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu gweld a’u clywed. Rydym yn mynd ati i gysylltu â grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i ymuno â’n cynghorau cenedlaethol er mwyn i ni allu meithrin cysylltiadau agosach â phob rhan o’r gymuned MS ledled y DU.

Dysgu a datblygu 

Byddwn yn darparu rhaglen gynefino gynhwysfawr, a byddwch yn cael sesiynau cadw golwg rheolaidd i weld a oes unrhyw gymorth parhaus y gallech chi elwa ohono. 

Ymrwymiad disgwyliedig o ran amser 

Byddai Cadeirydd Cyngor Lloegr yn cael ei benodi i dymor o dair blynedd, yn dechrau ar 1 Ionawr 2024, gyda’r opsiwn i geisio cael ei ailbenodi am ail gyfnod o dair blynedd. 

Ar wahân i gwblhau eich cyfnod cynefino a chymryd rhan mewn dysgu a datblygu parhaus, mae bod yn gadeirydd y cyngor yn golygu: 

  • gweithio gyda Chyfarwyddwr Arweiniol y Wlad i gyfrannu at bedwar cyfarfod anffurfiol o’r cyngor cenedlaethol bob blwyddyn (gall y rhain fod wyneb yn wyneb neu ar-lein), a’u harwain 

  • mynychu digwyddiadau eraill i’n cynrychioli a chlywed gan y gymuned MS 

  • cyfathrebu’n rheolaidd â Chyfarwyddwr Arweiniol y Wlad, aelodau’r Cyngor, a staff a gwirfoddolwyr eraill yn ôl yr angen 

Nid ydym am i gyllid fod yn rhwystr i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i ymuno â chyngor cenedlaethol. Byddwn yn trefnu eich teithio a’ch llety i fynychu digwyddiadau ar ein rhan, ac yn ad-dalu mân dreuliau eraill.

à Darllenwch ein polisi treuliau ar ein gwefan i wirfoddolwyr 

Amserlen recriwtio 

29 Hydref 2023 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 

Yn ystod wythnosau 13 a 20 Tachwedd 2023 – Cyfweliadau ymgeiswyr (ar-lein) 

1 Ionawr 2024 - Dechrau yn y rôl