Prosiect Lle i Anadlu
Prosiect ‘Breathing Space’ newydd yng Nghymru – ar gyfer gofalwyr di-dâl sy’n cefnogi pobl sy’n byw gydag MS.
Cymraeg | English
Ydych chi'n ofalwr di-dâl neu a ydych chi'n cefnogi rhywun sy'n byw gydag MS? Oes angen amser i ffwrdd arnoch chi? Os felly, a hoffech chi elwa ar egwyl fer sydd yn galli cynnwys unrhyw beth o benwythnos i ffwrdd, tripiau i'r sinema, pryd o fwyd allan neu sesiynau campfa?
Gall gofalwyr fynychu’r seibiannau byr eu hunain neu dod â’r person y maent yn gofalu amdano a/neu deulu a ffrindiau gyda nhw.
Beth yw gofalwr di-dâl?
Gofalwr di-dâl yw unrhyw un sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o’r teulu na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth ymdopi heb eu cefnogaeth. Gall gofalu am rywun gymryd ychydig oriau bob wythnos, neu gall gofalwr fod yn gofalu am 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Bydd y cyllid yn darparu seibiannau byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru ochr yn ochr â phobl sy'n byw gydag MS. Gall gofalwyr fynychu Seibiannau Byr ar eu pen eu hunain neu ddod â’r person y maent yn gofalu amdano gyda nhw a/neu deulu neu ffrindiau.
Mae’r Breathing Space yn cynnig:
- Teithiau dydd
- Gweithgareddau grŵp
- Arhosiad dros nos
- Digwyddiadau/sesiynau rhithwir
I fynegi diddordeb ar gyfer Seibiant Byr anfonwch e-bost at [email protected] – bydd rhywun yn cysylltu wedyn i drafod sut y gallwn helpu.
Ariennir y prosiect hwn gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr – rhaglen Amser Llywodraeth Cymru. https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/amser