Mapio gwasanaethau MS yng Nghymru

Comisiynwyd yr ymarfer mapio cynhwysfawr hwn gan Merck UK i ddeall bylchau yn y ddealltwriaeth o adnoddau a gweithlu gwasanaethau MS ar draws saith bwrdd iechyd Cymru.

Cymraeg | English

Comisiynwyd yr ymarfer mapio cynhwysfawr hwn gan Merck UK i ddeall bylchau yn y ddealltwriaeth o adnoddau a gweithlu gwasanaethau MS ar draws saith bwrdd iechyd Cymru.

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, cytunodd arweinwyr a chynrychiolwyr rhanbarthol gwasanaethau MS o bob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru i fapio’r gweithlu ar draws gwasanaethau arbenigol MS yng Nghymru ac i archwilio’r posibilrwydd ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r canfyddiadau o’r ymarfer mapio hwn, gan gynnwys: 

  • Trosolwg o’r gweithlu MS a darpariaeth gofal arbenigol MS ledled Cymru 
  • Gweithlu a darpariaeth gofal arbenigol MS yn y byrddau iechyd unigol gyda mewnwelediadau allweddol a dadansoddiad o’r bylchau 
  • Cyfres o themâu allweddol ac argymhellion ar gyfer y dyfodol er mwyn gwella a datblygu gofal a gwasanaethau MS yng Nghymru 

Datblygwyd yr adroddiad hwn ar gyfer gwasanaethau MS Cymru fel offeryn i feincnodi’r ddarpariaeth bresennol i gefnogi datblygu achosion busnes; i sicrhau bod llunwyr olisïau rhanbarthol a chenedlaethol yn cefnogi gwasanaethau clinigol; ac i alluogi’r arferion gorau ar gyfer gofal MS yng Nghymru.

Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn gan gynnwys yr argymhellion allweddol ac infograffig cryno gan ddefnyddio’r dolenni isod:

Adroddiad llawn

Infograffig

Mae’r ymarfer mapio hwn yn rhoi cynllun clir i Gymru: ble mae gwasanaethau’n gryf, ble mae’r bylchau, a sut y gallwn gydweithio i adeiladu gwasanaethau MS mwy cyfartal a chynhaliadwy i gleifion a theuluoedd. Mae’n cynnig cyfle unigryw i gydweithio ar gyfer rhwydwaith rhyngweithiol, gan ddatblygu gwasanaethau integredig i bobl ag MS ledled Cymru.
Neil Robertson, Athro Niwroleg Glinigol