Anfon e-bost at eich ymgeiswyr
Cyn etholiad y Senedd, mae’n bwysig sicrhau bod eich ymgeiswyr yn gwybod beth sy’n bwysig i chi. Dyma’ch cyfle chi i wneud yn siŵr bod eich ymgeiswyr yn gwybod beth sy’n bwysig i chi.
English | Cymraeg
Wnewch chi ofyn i’ch ymgeiswyr lleol siarad ar ran pobl sy’n byw gydag MS, a chefnogi newid?
Anfonwch e-bost at eich ymgeiswyr
Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 7 Mai 2026.
Dyma’ch cyfle chi i wneud yn siŵr bod eich ymgeiswyr yn gwybod beth sy’n bwysig i chi.
Mae ymgeiswyr eisiau clywed gan bleidleiswyr lleol. Gall eich llais chi wneud gwahaniaeth go iawn a rhoi MS ar yr agenda.
Bydd rhannu eich profiadau a’r hyn sy’n bwysicaf i chi yn ystod yr etholiad hwn yn helpu i sicrhau bod MS yn rhan o’r agenda.
Gallai gwell cefnogaeth a buddsoddiad drawsnewid bywydau pobl sy’n byw gydag MS.
Ond mae angen i’n hymgeiswyr lleol fod ar ein hochr ni. Ymgeiswyr sy’n gwybod pa faterion sydd bwysicaf i bobl sydd ag MS.
Gyda’n gilydd, rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wneud y canlynol:
-
Gweithredu Cynllun ar gyfer y Gweithlu Niwrolegol i gynyddu nifer y niwrolegwyr, nyrsys arbenigol, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar hyd a lled Cymru.
-
Dod â'r loteri cod post i ben a gweithredu’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn llawn, er mwyn sicrhau nad yw’r gofal a dderbynnir yn dibynnu ar eich cyfeiriad mwyach.
-
Gwella adsefydlu niwrolegol drwy gynyddu mynediad at wasanaethau hanfodol, gan gynnwys adsefydlu niwrolegol a gwasanaethau iechyd meddwl.
-
Buddsoddi mewn gofal drwy gynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau niwrolegol a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl sy’n byw gydag MS a gofalwyr di-dâl.
M Mae pob e-bost at ymgeisydd yn anfon neges bwerus. Rhaid i’r llywodraeth nesaf weithredu dros bobl sydd ag MS yng Nghymru.