Swyddog y Wasg a Chyfathrebu, Cymru
Swydd: Swyddog y Wasg a Chyfathrebu, Cymru
Math: 21 awr
Lleoliad: Gweithio gartref yng Nghymru
Cyflog: £16,147* (Cyfwerth ag Amser Llawn £26,912*) y flwyddyn ynghyd â buddion rhagorol
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw: 9:00 ddydd Llun 12 Hydref 2026.
Cymraeg | English
*byddwch yn dechrau ar ein cyflog pwynt mynediad o £16,147* (Cyfwerth ag Amser Llawn £26,912*) y flwyddyn, gan gynyddu i £17,156* (Cyfwerth ag Amser Llawn £28,594*) ar ôl 6 mis o wasanaeth a pherfformiad boddhaol ac i £18,166* (Cyfwerth ag Amser Llawn £30,276*) ar ôl 6 mis arall
Gwybodaeth amdanom ni
Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pobl sy’n byw ag MS wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Yr ymrwymiad hwn sy’n dod â ni ynghyd ledled y DU.
Mae ein strategaeth yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl y mae MS yn effeithio arnynt wedi dweud wrthym sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’n rhoi ffocws clir a phendant i ni.
Mae ein gwaith yn seiliedig ar obeithion a dyheadau ein cymuned MS. Gyda’n gilydd rydyn ni’n ymgyrchu ar bob lefel, yn ariannu ymchwil arloesol ac yn darparu cymorth a gwybodaeth sydd wedi ennill gwobrau.
Ein pobl yw ein prif ased ac maen nhw’n rhan annatod o’n llwyddiant. Rydyn ni’n cynnig amgylchedd gwaith bywiog a blaengar lle byddwch chi’n gallu gwneud gwahaniaeth.
Y swydd
Mae hwn yn gyfle ardderchog i ymuno â’n tîm gweithgar, creadigol a chefnogol yn MS Cymru.
Byddwch yn cyfathrebu â chynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg, a rhaid i chi fod yn siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
Rydyn ni’n chwilio am Swyddog y Wasg a Chyfathrebu dygn, rhagweithiol i ymuno â’n tîm a’n helpu ni i gyflawni ein nodau uchelgeisiol.
Yn hollbwysig, byddwch yn hybu ac yn darparu strategaethau/sylw yn y cyfryngau i hyrwyddo ein gwaith, gyda phwyslais penodol ar hyrwyddo ein gweithgareddau codi arian, ymgyrchu a gwasanaeth.
Hefyd, chi fydd ein pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau. Byddwch hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu ein cyfathrebiadau digidol, gan sicrhau bod gennym bresenoldeb cryf a chynrychioladol ar gyfryngau cymdeithasol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad perthnasol (er enghraifft mewn swyddfa’r wasg, asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus neu newyddiaduriaeth), a bydd yn hyderus yn rheoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd fel rhan o dîm prysur. Bydd gennych sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu ardderchog yn Gymraeg a Saesneg, yn ogystal ag agwedd gadarnhaol.
Mae sgiliau siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hanfodol. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn ddim llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sut mae gwneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cyflwynwch y canlynol:
- CV cyfredol
- datganiad ategol. Dylai’r rhain ddangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol ym manyleb y person yn y disgrifiad swydd.
Anfonwch eich ceisiadau cyflawn atom dros e-bost at [email protected]
Gellir cyflwyno ceisiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Os hoffech chi drafod y swydd yn gyfrinachol yn gyntaf, cysylltwch â’n tîm Adnoddau Dynol drwy anfon e-bost at: [email protected]
Bydden ni’n ddiolchgar pe baech chi’n llwytho’r ffurflen monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth i lawr ar ein gwefan a’i llenwi, ac yna’n ei chyflwyno gyda’ch cais.
Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl a/neu bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
Eich hawl i weithio yn y DU
Mae’n rhaid bod gennych yr hawl i weithio yn y DU er mwyn gweithio mewn cyflogaeth am dâl gyda ni. Bydd angen i chi rannu dogfennau sy’n dangos eich bod yn gymwys i weithio yn y DU os byddwn yn cynnig cyflogaeth i chi.
Fe welwch chi’r fisâu a’r trwyddedau sy’n rhoi hawl i chi weithio yn y DU ar wefan Llywodraeth y DU. Does gennym ni ddim cytundeb Trwydded Noddwr â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd ac allwn ni ddim rhoi cymorth i chi gyda’ch ceisiadau am fisa.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydyn ni’n Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Gallwch chi ofyn am addasiadau rhesymol fel rhan o’n prosesau recriwtio a chynefino gweithwyr newydd.
Os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch chi i wneud cais am y swydd hon, anfonwch e-bost at [email protected]
Gallwch chi hefyd ofyn i ni anfon y deunyddiau ymgeisio atoch chi mewn fformat gwahanol. Er enghraifft, gallwch ofyn i ni eu hanfon atoch chi drwy e-bost neu mewn fformat Word mwy o faint.
Mwy am ein proses recriwtio a dethol
Mae rownd gyntaf ein proses recriwtio a dethol yn cynnwys cyfweliad gyda chwestiynau sy’n seiliedig ar gymhwysedd.
Gall ein proses recriwtio a dethol hefyd gynnwys tasgau ychwanegol. Er enghraifft, prawf ysgrifenedig neu ar Microsoft Excel neu wneud cyflwyniad.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd cynnwys y broses ddethol pan fyddwn ni’n eich gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r gwahoddiad, gallwch chi ofyn am unrhyw addasiadau rhesymol eraill ar gyfer y cyfweliad.
Efallai y cewch eich gwahodd am ail gyfweliad hefyd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn yn ystod y broses ddethol.
Mwy am ein buddion i weithwyr:
Mae gennym ni ystod eang o fuddion i weithwyr gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Annog cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- 39 diwrnod o wyliau pro rata (gan gynnwys gwyliau banc) - pro rata ar gyfer swyddi rhan-amser
- Mwy o hawl i wyliau blynyddol, yn seiliedig ar hyd eich cyflogaeth
- Opsiynau gweithio’n glyfar (gyda’r cyfle i weithio o bell a dod o hyd i batrwm gweithio’n glyfar sy’n addas i chi ac i ni)
- Opsiynau gweithio’n hyblyg
Gofalu amdanoch chi a'ch teulu
- Hawl hael i dâl salwch
- Mwy o hawl i dâl salwch, yn seiliedig ar hyd eich cyflogaeth
- Cyfle i brynu a gwerthu gwyliau blynyddol ym mhob blwyddyn galendr
- Mynediad am ddim i feddyg teulu ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos sy’n rhoi cyngor, sicrwydd a diagnosis di-ben-draw i chi, lle bo hynny’n briodol
- Mwy o absenoldeb i rieni newydd
- Mynediad am ddim i wasanaeth llinell gymorth gyfrinachol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar eich cyfer chi a’ch teulu gydag amrywiaeth o gefnogaeth a gwybodaeth arbenigol
- Opsiynau absenoldeb arbennig (fel hyd at 5 diwrnod o wyliau gyda thâl bob blwyddyn ar gyfer argyfyngau domestig neu bersonol)
- 10 diwrnod o absenoldeb anabledd y flwyddyn, pro rata ar gyfer swyddi rhan-amser
- 10 diwrnod o absenoldeb gofalwr bob blwyddyn, pro rata ar gyfer swyddi rhan-amser
- Buddion newydd sy’n ystyriol o deuluoedd, gan gynnwys absenoldeb â thâl:
- os bydd camesgoriad neu farw-enedigaeth
- i gefnogi triniaethau ffrwythlondeb
- ar gyfer apwyntiadau cyn geni i’r ddau riant
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Cynllun marw yn y swydd
Meddwl am eich sefyllfa ariannol
- Cynllun pensiwn aberthu cyflog uwch
- Benthyciad tocyn tymor rhatach a benthyciadau di-log mewn argyfwng
- Rhoi arian wrth i chi ennill cyflog i gefnogi elusennau eraill o’ch dewis cyn treth
- Porth newydd i weithwyr, gan gynnwys talebau cynilo ar gyfer ffordd o fyw a lles personol
Cyfoethogi eich bywyd yn y gwaith
- Cynlluniau datblygiad personol gydag ystod eang o gyrsiau hyfforddi a chyfleoedd i ddod o hyd i opsiynau hyfforddi ychwanegol gyda’ch rheolwr llinell
- Cyfleoedd prentisiaeth mewnol blynyddol
- Swyddfeydd newydd, modern sy’n croesawu cydweithio wyneb yn wyneb ac o bell
- Amryw o gyfleoedd i ddylanwadu ar sut rydyn ni’n gweithredu’n fewnol (gan gynnwys arolygon, a grwpiau ffocws a phwyllgorau)
- Grwpiau rhwydweithio mewnol gweithredol a chefnogol i weithwyr er mwyn cydweithio a chefnogi cyfoedion
- 2 ddiwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn ar gyfer gwirfoddoli mewn gweithgareddau MS Society yn ystod oriau gwaith arferol (fel digwyddiadau codi arian, neu ymgyrchu yn y gymuned leol)
- 2 ddiwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn ar gyfer gwirfoddoli gydag elusennau eraill yn ystod oriau gwaith arferol
Diogelu
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau a phawb rydyn ni’n dod i gysylltiad â nhw.
Mae hyn yn wir waeth beth yw eu:
- rhywedd
- hil
- anabledd
- cyfeiriadedd rhywiol
- crefydd neu gred
- beichiogrwydd
- ailbennu rhywedd
Rydyn ni’n cydnabod ein cyfrifoldeb penodol i sicrhau bod oedolion a phlant agored i niwed yn cael eu hamddiffyn.
Mae gennym fesurau ar waith i ddiogelu pawb rydyn ni’n dod i gysylltiad â nhw rhag cael eu cam-drin mewn unrhyw ffordd.