Ymunwch â’n Bwrdd
Mae cael arweiniad Bwrdd cryf ac effeithiol yn hanfodol i’n llwyddiant. Ac mae deall beth sydd bwysicaf i’n cymuned yn hanfodol i’r effaith a gawn.
English | Cymraeg
Gwybodaeth amdanom ni
Fel prif elusen MS y Deyrnas Unedig, rydym yn darparu gobaith, llais, a chefnogaeth i bawb y mae MS yn effeithio arnynt.
Rydym yma i bobl sydd ag MS, ac i’w ffrindiau, eu teuluoedd, a’u gofalwyr. Ac rydym yma i’r cefnogwyr, y gwirfoddolwyr, yr ymchwilwyr, a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n unedig yn erbyn MS.
Ein gweledigaeth yw byd heb MS. Mae hynny’n golygu llai o bobl yn datblygu MS. A phawb sydd ag MS yn cael y triniaethau a’r gefnogaeth effeithiol sydd eu hangen arnynt i fyw’n dda.
Mae MS yn anodd, ond gyda’n gilydd gallwn ei drechu.
Ein sefydliad yn 2026
Mae ein strategaeth wedi’i seilio ar dair elfen: atal MS, cael eich clywed, a byw’n dda. Dyma sut y byddwn yn gwireddu ein gweledigaeth.
Rydym yn newid y byd ymchwil i atal MS. Rydym wedi lansio Octopus, ein treial cyffuriau chwyldroadol, aml-gangen, aml-gam sy’n trawsnewid y ffordd rydym yn profi triniaethau ar gyfer MS sy’n gwaethygu. Ac rydym yn cynnal ymchwil i wella ein dealltwriaeth o anghydraddoldebau iechyd er mwyn i ni allu cefnogi grwpiau ymylol yn well.
Rydym yn gwneud yn siŵr bod llais ein cymuned yn cael ei glywed. Gwyddom fod diwygio lles yn gallu gwthio pobl sydd ag MS i dlodi a gwaethygu canlyniadau iechyd. Gyda’n gilydd, rydym yn codi llais i wneud yn siŵr bod MS yn aros ar yr agenda yn San Steffan, Holyrood, y Senedd, a Stormont.
Rydym yn dod â’r gwasanaethau, yr wybodaeth, a’r arbenigedd sydd eu hangen ar ein cymuned at ei gilydd i ddeall a rheoli eu MS. Rydym yn grymuso pawb sydd ag MS i gynnal eu llesiant corfforol, emosiynol ac ariannol. Ac rydym yn galluogi cysylltiadau cymunedol. Er mwyn i bawb yn ein cymuned MS allu byw’n dda.
Rydym yn sefydliad cymhleth gyda nodau uchelgeisiol. Ac rydym yn gwybod bod angen i ni drawsnewid sut rydym yn gweithio i’w diwallu. Rydym yn gwella sut rydym yn defnyddio data. Rydym yn sicrhau bod gwasanaethau mwy perthnasol ar gael i fwy o’r gymuned MS. Rydym yn datblygu perthnasoedd hirdymor cryfach yn ein cymuned a’r tu hwnt, felly mae mwy o bobl eisiau ein cefnogi ni fel rhoddwyr, gwirfoddolwyr, ac ymgyrchwyr. Ac rydym yn adeiladu tîm cryfach fyth ac yn creu ffyrdd mwy clyfar o weithio mewn diwylliant parchus, cefnogol, a chynhwysol.
Rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ni gymryd risgiau beiddgar a phendant i gyflawni ein gweledigaeth. A bydd angen cydbwyso hyn â llywodraethu cadarn gan y Bwrdd. Er mwyn sicrhau ei fod yn craffu ac yn herio’n effeithiol, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi adolygu a diweddaru strwythur a chylch gwaith ei bwyllgorau arbenigol.
Mae hyn i gyd a mwy yn sefyll o’n blaenau. Mae’n dasg enfawr. Ond gyda’n gilydd, mae ein cymuned MS yn rym unigryw a phwerus ar gyfer newid cadarnhaol. Ymunwch â ni. A gyda’n gilydd, byddwn yn creu dyfodol heb MS.