Daf Wyn yn cael ei enwi fel ein Llysgennad MS Society newydd

Wednesday 23 October 2024

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod Daf Wyn wedi ymuno â’n tîm o Lysgenhadon MS Society.

Cymraeg | English

Mae Daf yn gyflwynydd ar y rhaglen gylchgrawn ddyddiol, ‘Heno,’ sy’n cael ei darlledu ar sianel deledu Gymraeg S4C. Cafodd Daf ddiagnosis o MS atglafychol ysbeidiol yn 2021 yn 30 oed.

Gan ddefnyddio ei broffil cyhoeddus

Ers ei ddiagnosis, mae Daf wedi defnyddio ei broffil cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer MS Society Cymru. Mae hyn wedi cynnwys trefnu cyngerdd cerddoriaeth a chomedi codi arian yn 2022, rhedeg Marathon Llundain yn 2023, a chreu ffilm Gymraeg i S4C am ei ddiagnosis MS.

Codi proffil MS yng Nghymru

Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd Daf:

"Mae’n fraint cael bod y Llysgennad cyntaf i'r MS Society sy'n siarad Cymraeg. Gall byw gyda MS fod yn heriol, ond mae bod yn rhan o’r elusen wedi dangos i mi gryfder y gymuned. Dw i’n gyffrous i ddechrau ar y gwaith o godi ymwybyddiaeth, cefnogi eraill, a chyfrannu at waith hanfodol yr MS Society."

Mae Shelley Elgin, Cyfarwyddwr Gwlad, MS Society Cymru, yn dweud:

"Mae’n bleser gennym groesawu Daf fel ein Llysgennad Cymraeg cyntaf. Mae Daf wedi dangos ei gefnogaeth ddiwyro, nid yn unig drwy rannu ei brofiad o fyw gydag MS ond hefyd drwy fod yn aelod o Gyngor MS Cymru am y flwyddyn ddiwethaf, gan eiriol dros bobl sy’n byw gydag MS yma yng Nghymru a chodi ymwybyddiaeth o MS. Mae hyn yn gwneud Daf yn Llysgennad perffaith i’n helpu ni i gyrraedd mwy o bobl sydd wedi’u heffeithio gan MS. Mae’n wir ysbrydoliaeth."

Wedi’ch ysbrydoli gan ein Llysgenhadon?

Ymunwch â’n cymuned o wirfoddolwyr a helpwch i wneud gwahaniaeth i’r miloedd o bobl ledled y DU sy’n byw gydag MS.

Gwirfoddolwch gyda ni