Questions about MS? Call us on 0808 800 8000
A close-up of hands typing on a laptop

Gwybodaeth am y swydd hon - cadeirydd cyngor

Rydym ni’n chwilio am gadeirydd cyngor i ddarparu arweinyddiaeth weladwy a chredadwy i’n Cyngor yng Nghymru.

Cymraeg | English

Bydd angen i chi fod yn agored i newid ac arloesi, gan ein bod ni’n adolygu ein cynghorau cenedlaethol ar hyn o bryd i sicrhau y bydd eu strwythur a’u cylch gwaith yn diwallu anghenion y Gymdeithas MS a’n cymuned MS yn y dyfodol.

Mae ein cynghorau cenedlaethol yn ein helpu i gyrraedd ymhellach i’r gymuned MS ym mhob un o wledydd y DU. Rydym ni’n gweithredu fel llysgenhadon dros ein hachos ac yn galluogi pobl y mae MS yn effeithio arnyn nhw i rannu beth sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae’r cynghorau’n helpu i gyflawni ein strategaeth a’n cynlluniau cenedlaethol, ac yn cyfrannu at ddealltwriaeth y Bwrdd o flaenoriaethau a materion sy’n ymwneud â gwlad benodol.

Fel cadeirydd cyngor, byddwch chi yn dod yn aelod cyfreithiol o’r Gymdeithas MS ac yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd ar ran y cyngor i sicrhau bod y penderfyniadau rydym ni’n eu gwneud yn cael eu llywio gan beth sydd bwysicaf i’r bobl y mae MS yn effeithio arnyn nhw yn eich gwlad.

Dysgwch fwy am beth sy’n digwydd yn eich ardal chi yn ein Cynllun Blynyddol ac Adolygiad Cymru

Mae gan y rhan fwyaf o gadeiryddion ein cynghorau gysylltiad personol â MS, naill ai oherwydd eu bod nhw’n byw gyda MS eu hunain neu oherwydd eu bod nhw’n agos at rywun sy’n byw gyda MS. Os cewch chi eich penodi, byddwn ni’n disgwyl i chi rannu ein gwerthoedd a bod â dealltwriaeth o MS neu fod yn barod i ddysgu. A bydd angen i chi fod yn siŵr eich bod chi’n gallu ymrwymo’r amser a’r egni y bydd eu hangen i fod yn arweinydd cyngor ysbrydoledig ac effeithiol. Mae rôl cadeirydd y cyngor yn wirfoddol, ac mae’n ddi-dâl.

Ai dyma’r rôl i chi?

Fe hoffem ni glywed gennych chi os ydych chi’n rhannu ein huchelgais o ehangu cyrhaeddiad ein cynghorau cenedlaethol, ac os oes gennych chi brofiad o’r canlynol:

  • cadeirio cyfarfodydd
  • arwain a chefnogi tîm
  • dirprwyo a chymell eraill

Mae ein cynghorau cenedlaethol yn falch o arwain drwy esiampl, a rhoi profiad go iawn o MS wrth galon popeth rydym ni’n ei wneud. Rydym yn annog ceisiadau gan bobl sydd â chysylltiad personol ag MS.

Llwythwch ddisgrifiad rôl gwirfoddol Cadeirydd y Cyngor Cenedlaethol i lawr

Llwythwch ddisgrifiad rôl Aelod o’r Cyngor Cenedlaethol i lawr

Ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant

Mae MS pawb yn wahanol. Ac mae gan bob un ohonom ni brofiadau byw gwahanol yn dibynnu ar ble rydyn ni’n byw, ein rhywedd, ein rhywioldeb neu ein cefndir. Does dim un ateb sy’n gwneud y tro i bawb.

Ond mae grwpiau o bobl yn ein cymuned MS sydd ddim yn cael eu cefnogi’n ddigonol ac sydd ddim yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn ein gwaith:

  • pobl iau gyda MS
  • pobl LGBTQ+
  • pobl gyda chefndir lleiafrif ethnig, Asiaidd neu Ddu
  • pobl â MS difrifol a’r bobl sy’n gofalu amdanyn nhw

Rydym ni eisiau i bawb deimlo eu bod nhw’n cael eu cynnwys, eu gweld a’u clywed. Rydym ni’n mynd ati i estyn allan at grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i ymuno â’n cynghorau cenedlaethol er mwyn i ni allu meithrin cysylltiadau agosach â phob rhan o’r gymuned MS ar draws y DU.

 

Dysgu a datblygu

Byddwn ni’n darparu rhaglen gynefino gynhwysfawr ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael cefnogaeth barhaus. Byddwch chi yn mynychu ein Diwrnod Strategol Cwrdd i Ffwrdd blynyddol, ac yn cael cyfarfodydd rheolaidd i ddod o hyd i unrhyw gyfleoedd datblygu eraill a allai fod o fudd i chi.

Ymrwymiad disgwyliedig o ran amser

Mae cadeiryddion y cynghorau’n cael eu penodi am gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2023, gyda’r opsiwn o geisio cael eu hailbenodi am ail dymor o dair blynedd.

Ar wahân i gwblhau eich cyfnod cynefino a chymryd rhan mewn dysgu a datblygu parhaus, mae bod yn gadeirydd cyngor yn cynnwys:  

  • arwain y gwaith o recriwtio a datblygu aelodau o’r Cyngor i fod yn llysgenhadon effeithiol dros ein hachos ac yn eiriolwyr dros y gymuned MS
  • sefydlu amserlen amrywiol a chynhwysol o gyfleoedd ymgysylltu drwy gydol y flwyddyn i glywed gan amrywiaeth eang o bobl y mae MS yn effeithio arnyn nhw yn y wlad rydych chi’n ei chynrychioli
  • arwain pedwar cyfarfod anffurfiol o’r cyngor cenedlaethol bob blwyddyn i gasglu gwybodaeth a chytuno ar bwyntiau allweddol i’w cyfleu i’r Bwrdd  
  • mynychu pedwar cyfarfod o’r Bwrdd yn bersonol bob blwyddyn (mae’r rhain yn gyfarfodydd yn ystod y dydd yn ystod yr wythnos)
  • paratoi i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd a’r cyngor drwy gyfrannu at y papurau sy’n cael eu darparu a’u darllen
  • mynychu digwyddiadau eraill i’n cynrychioli ni a chlywed gan y gymuned MS

Yn dibynnu ar eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch argaeledd, efallai y byddwch chi hefyd yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgorau dewisol, neu i ymuno ag un o bwyllgorau’r Bwrdd sydd hefyd yn cyfarfod hyd at bedair gwaith y flwyddyn (cyfarfodydd byrrach, ar-lein fel arfer, yn ystod y dydd yn ystod yr wythnos).

Mae cyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cynnal yn Llundain. Mae ein swyddfa newydd yn Llundain wedi cael ei dylunio gyda hygyrchedd, cynhwysiant a gweithio hyblyg mewn golwg.

Dydyn ni ddim eisiau i arian fod yn rhwystr i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i fod yn gadeirydd cyngor Cymdeithas MS. Byddwn ni’n trefnu eich teithiau a’ch llety i fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau, ac yn ad-dalu mân dreuliau eraill.

Darllenwch ein polisi treuliau ar ein gwefan i wirfoddolwyr