Cysylltiadau Cymunedol

Mae'r prosiect hwn yn helpu pobl sy'n byw gydag MS a'r rhai yr effeithir arnynt gan MS ledled Cymru a De-orllewin Lloegr (Cernyw, Dyfnaint, Gwlad yr Haf, Bryste, Sir Gaerloyw, a Wiltshire). Mae yma i'ch helpu i lywio gwasanaethau lleol, cefnogaeth, gweithgareddau ac adnoddau i'ch helpu i fyw'n dda gydag MS.

Cymraeg | English

Ariennir y prosiect hwn gan Wales and West Utilities tan fis Mawrth 2026.

Pwy all gael mynediad at y prosiect?

Mae'r prosiect hwn ar gyfer pobl sy'n byw gydag MS yn ogystal â'u teulu a'u ffrindiau ac unrhyw ofalwyr di-dâl.

Pa wasanaethau mae'r prosiect yn eu darparu?

Mae Cysylltiadau Cymunedol yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:

  • Cyngor am gyllid
  • Gwybodaeth yn ymwneud â chostau byw
  • Gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni
  • Ymwybyddiaeth o garbon monocsid
  • Y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth.

Mae Cysylltiadau Cymunedol yn gweithio gyda gwasanaethau Cyngor ar Bopeth lleol, a sefydliadau arbenigol eraill, i sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad at gyngor ar fudd-daliadau. Mae hefyd yn gweithio gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â sefydliadau lleol eraill, i wella mynediad at wasanaethau a gweithgareddau lles.

Sut gallaf gael mynediad at y gwasanaeth? 

I gael mynediad at y gwasanaeth, llenwch ein ffurflen atgyfeirio.

Gallwch hefyd anfon e-bost atom i [email protected] neu ffoniwch ein Llinell Gymorth MS ar 0808 800 8000.

Ariennir y prosiect hwn gan Wales and West Utilities trwy'r Lwfans Bregusrwydd a Charbon Monocsid (VCMA)