Gwybodaeth am MS yng Nghymraeg?

Croeso i MS Society Cymru

Sglerosis ymledol (MS) yw’r afiechyd niwrolegol mwyaf cyffredin ymysg oedolion ifanc.

Mae dros 2,500,000 o bobl y byd yn byw gydag MS, gan gynnwys tua 100,000 o bobl y Deyrnas Unedig

Fe gewch ragor o wybodaeth am MS yn “Beth yw MS?” neu yn y cyhoeddiad “Newydd gael diagnosis” - cyflwyniad i bobl sydd wedi cael diagnosis yn ddiweddar

Mae yna gyhoeddiad arall, ‘Sglerosis Ymledol’, sy’n esbonio’n gryno beth yw MS ac sy’n sôn am waith MS Society Cymru

Nid yw rhai o'r gwasanaethau gwybodaeth a restrir isod ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd. I siarad â rhywun yn y Gymraeg, cysylltwch â swyddfa MS Society Cymru ar 029 2078 6676 neu anfonwch e-bost at mscymru@mssociety.org.uk. Os hoffech siarad â gweithiwr MS Helpline yn y Gymraeg, cysylltwch â swyddfa MS Society Cymru o flaen llaw er mwyn trefnu cyfieithydd ar gyfer eich galwad.

Page tagged with:

What's new?