
|
 |
Cyfarwyddwr, Cymdeithas MS Cymru - Judi Rhys
Mae creu’r swydd newydd hon yng Nghymdeithas MS Cymru yn rhan o strategaeth 5-mlynedd heriol ac uchelgeisiol y Gymdeithas ar draws y DU. Nod y strategaeth yw cynyddu gweithgarwch y Gymdeithas a’i dylanwad ym meysydd ymchwil, gwybodaeth, cefnogaeth, codi safonau gofal ac arwain yr agenda MS. Mae cryfhau’r tîm yng Nghymru’n hanfodol er mwyn sicrhau bod yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni yn ein cenedl. Bydd Judi a’i thîm yn gweithio’n agos gyda phob rhanddeiliad yng Nghymru a hefyd gyda Chanolfan Genedlaethol Cymdeithas MS i sicrhau’r dyraniad mwyaf priodol o ran adnoddau ac ymdrech, ac i feithrin cydweithrediad a fydd o fudd i bawb. Fel aelod o Bwyllgor Gweithredol Cyfarwyddwyr Cenedlaethol y DU a Chenedlaethol, bydd Judi’n cyfrannu at arweiniad, cynllunio a llunio polisïau ar draws y Gymdeithas yn gyffredinol.
Cychwynnodd Judi Rhys ar ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr MS Society Cymru/Wales ar 2 Ionawr, 2008. Tan yn ddiweddar Judi oedd Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, ac mae ganddi ystod eang o brofiad a sgiliau i ddwyn gwaith y Gymdeithas yn ei flaen. Mae Judi wedi dal nifer o swyddi rheoli dros y 17 mlynedd diwethaf a dechreuodd ei gyrfa gyda’r GIG yn hybu iechyd yng nghymunedau cymoedd de Cymru. Oddi yno, symdodd i addysg uwch a bu’n Diwtor Staff yn Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Brifysgol Agored gan reoli tîm o 45 tiwtor ledled Cymru, ac yn Ddarlithydd Cyswllt ar nifer o gyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol. Bu hefyd yn gyfrifol am arwain rhaglen dysgu seiliedig ar waith y Brifysgol Agored ar gyfer y Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Yn dilyn hynny, Judi oedd Rheolwr Hyfforddiant a Datblygu ym Mhrifysgol Caerdydd lle roedd yn gyfrifol am bob agwedd ar ddatblygu staff ar gyfer staff academaidd y brifysgol. Yna symudodd yn ôl i faes iechyd fel Arweinydd Tîm o 13 staff yn y Tîm Gwella Iechyd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili cyn ymuno â Diabetes UK.
Mae gan Judi gymwysterau ôl-radd mewn hybu iechyd, rheoli ac addysg. Mae hefyd yn hyfforddwr trwyddedig ar gyfer rhaglen datblygu gwragedd Springboard. Fe’i ganed yn Aberafan, yn Ne Cymru, ac mae ganddi ddau fab sydd bellach yn oedolion ac sy’n byw yn Rhydychen a Llundain, ac mae hithau’n byw gyda’i g?r yn Llanfihangel-y-pwll ym Mro Morgannwg. Yn ei hamser hamdden, mae’n hoff o redeg pellterau ac mae wedi cwblhau chwe marathon a dwsinau o hanner marathonau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd mae’n ail yng Nghymru ar gyfer ei gr?p oedran mewn marathonau.
Wrth siarad am ei swydd newydd dywedodd Judi “Rwy’n edrych ymlaen at gychwyn ar y swydd newydd hon gyda Chymdeithas MS ac at weithio gyda chydweithwyr i ddatblygu ymhellach weithgareddau a dylanwad y Gymdeithas yng Nghymru. Rwy’n sylweddoli’r heriau a’r cyfleoedd y mae datganoli’n eu cyflwyno i sefydliadau’r DU ac rwy’n gobeithio y bydd y gwahanol sgiliau a’r profiad blaenorol sydd gyda fi’n werthfawr wrth ddwyn ymlaen y gwaith rhagorol a wnaed eisioes gan gydweithwyr yng Nghymdeithas MS Cymru. Fel rhan o’m rhaglen sefydlu, byddaf yn mynd o gwmpas yn cwrdd â llawer o bobl a effeithir gan MS a byddaf yn sicrhau bod mwyafu’r lles iddyn nhw yn parhau i fod yn ystyriaeth hollbwysig ym mhopeth a wnaf fi.”
|  |

|

|