Skip navigation

This website uses CSS layout which is not compatible with your current browser. Please consider using a more up to date browser to view this site.

Am fwy o wybodaeth:

MS Cymru
Cwrt y Deml
Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9HA

Ffôn: 029 20 786676
ebostiwch MS Cymru



Cymryd rhan

Gall cymryd rhan fod yn brofiad gwethfawr a hwyl. Mae'n gymorth hefyd i ni barhau â'r gwaith pwysig 'rydym yn ei wneud ar gyfer y rheiny a effeithir gan sglerosis ymledol (MS).

Mae dros 90% o incwm yr MS Society yn dod o unigolion, naill ai trwy gyfraniadau, cymryd rhan mewn digwyddiadau a noddir neu adael etifeddiaeth. Heb gymorth yr unigolion caredig hyn ni fyddai'n bosi i ni barhau i ariannu gwasanaethau hanfodol neu fuddsoddi yn y rhaglenni ymchwil a fydd yn arwain at wellhad i MS un diwrnod, gyda gobaith.

Ymunwch â ni

Gyda thua 1,600 o aelodau, MS Society Cymru yw'r prif ffynhonnell o wybodaeth ddibynadwy am MS a'r elusen sy'n arwain y gwaith ar ran pobl sy'n byw gyda'r cyflwr yng Nghymru.


Mae aelodaeth o'r MS Society yn agored i bawb. Trwy ddod yn aelod o'r MS Society, byddech yn derbyn y manteision aelodaeth safonol i gyd yn ogystal â mynediad i wybodaeth leol, cymorth a gwasanaethau ar hyd a lled Cymru. Byddech hefyd yn derbyn cylchgrawn aelodaeth MS Cymru, MS Linc.*


* Mae manteision Cymreig penodol yn berthnasol i bob aelod sy'n byw yng Nghymru’n bresennol.  

Cyfrannwch

Gwnewch gyfraniad i MS Cymru a helpwch 'i guro MS'
 

Gwirfoddolwch

Fel gwirfoddolwr, gallech wella’ch sgiliau a chael hwyl ar yr un pryd â helpu pobl eraill.  

Codwch arian

Pu'n a ydych wedi bod yn codi arian am flynyddoedd neu'n dechrau gwneud am y tro cyntaf, mae digwyddiadau a heriau ar hyd a lled Cymru a'r byd i gyd a fydd yn sicrhau pobl llawn hwyl, llefydd gwych ac atgofion arbennig.

Hoffech chi redeg eich digwyddiad codi arian eich hun? Gallen ni'ch helpu trwy gynnig cyngor, hysbysebu, cymorth parhaus a deunyddiau cyhoeddusrwydd.  

Partneriaid Corfforaethol

Mae partneriaeth ag MS Society Cymru yn cynnig cyfle unigryw i'ch cwmni weithio gydag un o elusennau mwyaf uchel ei pharch Cymru. Efallai yr hoffech gynnig cymorth fel busnes trwy gyfraniadau uniongyrchol, codi arian neu ein penodi fel 'elusen y flwyddyn'.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda â,n Codwr arian, Iestyn Evans, on 029 20 786676 neu ebostiwch Iestyn 

Dweud Eich Dweud

Hoffech chi ddweud eich dweud am faterion allweddol MS yng Nghymru?

  • Gallech ddweud eich dweud ar un o Ymgyrchoedd MS Cymru

  • Oes gennych stori neu syniad yr hoffech ei rannu gydag aelodau'r MS Society yng Nghymru? Ysgrifennwch erthygl ar gyfer MS Linc, cylchgrawn aelodaeth MS Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’n Rheolwr Polisi, Yr Wasg ac Ymgyrchoedd, Joseph Carter.
Ffôn: 029 20 786676
ebostiwch Joseph