
|
 |
Gwirfoddoli
Gwirfoddolwyr yw calon y Gymdeithas. Hebddynt, ni fyddai cymdeithas fel sydd heddiw ac ni fyddai pobl sy'n cael eu heffeithio gan MS yn derbyn y gefnogaeth sydd mor hanfodol bwysig iddynt. Gall gwirfoddoli eich helpu chi ddatblygu sgiliau newydd, cryfhau sgiliau sydd eisoes yn bodoli a chynnig cyfle i chi gyfarfod pobl newydd. Mae cyfoeth o gyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru a fyddai'n addas ar gyfer rhywun sydd â'ch sgiliau, eich profiad a'ch dyheadau chi. Beth am wirfoddoli rwan?
Byddwn ninnau, yn ein tro yn cynnig unrhyw gyfleoedd hyfforddiant a fydd eu hangen arnoch i gwrdd â'ch rôl newydd gan gynnwys cyflwyniad i'r Gymdeithas a'i gwaith; sicrhau eich bod yn derbyn cefnogaeth barhaol ac ad-dalu unrhyw gostau a fydd yn eich wynebu wrth wirfoddoli.
Os ydych yn teimlo bod gennych rywbeth i'w gynnig ac y gallech gael budd o'r cyfle i wirfoddoli ? yna darllenwch ymlaen.
Dyma rai cyfleoedd sy'n bodoli yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Cyfleoedd Gwirfoddoli
Mae nifer o gyfleoedd penodol yn bodoli ar gyfer gwirfoddolwyr o fewn MS Cymru
Gwirfoddolwyr Cangen
Mae gennym 22 o ganghennau ledled Cymru sy'n chwilio am wirfoddolwyr ar hyn o bryd
|  |

|

|