![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() ![]()
![]() |
|
|
Y Tîm Datblygu Gwasanaethau yng NghymruJoanna Ridley (Rheolwr Datblygu Gwasanaethau), Sue Lloyd (Swyddog Datblygu Gwasanaethau), ac Andrea Howard (Cydlynydd Project) yw’r Tîm Datblygu Gwasanaethau yng Nghymru. ![]() Bu Jo gyda’r Gymdeithas MS Society ers 1994, mewn amryw rolau, gan gynnwys Rheolwr Grantiau, Rheolwr Datblygu Gwasanaethau (gan ddatblygu ein safonau gofal iechyd a’r Offeryn Mesur Llwyddiant), our healthcare standards and Measuring Success Toolkit), Rheolwr Rhaglen Gofalwyr ac yn awr Rheolwr Datblygu Gwasanaethau yng Nghymru. Mae Jo yn gweithio’n agos gyda Sue Lloyd a Chyngor MS Cymru, i ddatblygu cynlluniau i wella’r modd y darperir gwasanaethau yng Nghymru i bobl a effeithir gan MS. Bu Sue gyda’r Gymdeithas MS ers Mehefin, 2000, pan fu’n gweithio fel Cydlynydd Cefnogaeth Rhanbarthol (CCRh) o fewn y Gyfarwyddiaeth Cefnogaeth Canghennau a Rhanbarthau. Yn 2005 bu rhywfaint o ad-drefnu o fewn y Gymdeithas MS a’r canlyniad fu rhannu rôl y CCRh i Ofal Cymdeithasol ac Iechyd & gwaith cefnogi’r canghennau a’r rhanbarthau. Mae Sue bellach yn gweithio o fewn yr Adran Ymchwil a Gwasanaethau fel aelod o’r Tîm Datblygu Gwasanaethau. Mae ei rôl newydd yn ei galluogi i ganolbwyntio ei hymdrechion ar weithio’n ymarferol i wella’r gwasanaethau a ddarperir i bobl a effeithir gan MS gan ddarparwyr gofal cymdeithasol ac iechyd gan ddarparwyr statutol, gwirfoddol ac annibynnol. Mae hyn yn cynnwys gweithio o fewn y Tîm Datblygu Gwasanaethau i ddefnyddio adnoddau’r Gymdeithas MS i beri newid i gwrdd â chanllawiau cenedlaethol ac o fewn MS Cymru. Mae Sue yn adrodd i ac yn gweithio gyda’r Rheolwr Datblygu Gwasanaethau, Joanna Ridley, sydd hefyd yn arweinydd cenedlaethol ar gyfer y rhaglen gofalwyr. Andrea Howard, Rhwydwaith Gofalwyr MS Cymru, Cydlynydd Project Andrea yw’r aelod mwyaf newydd o’r Tîm Datblygu Gwasanaethau a’i rôl yw datblygu Rhwydwaith Gofalwyr MS Cymru, gwasanaeth cyfeillio newydd dros y ffôn a thrwy ebost ar gyfer gofalwyr ynysedig pobl am MS ledled Cymru. Mae Andrea yn gweithio’n rhan-amser ond mae’n awyddus i glywed gan ofalwyr a hoffai wybod mwy am ddod yn gyfaill gwirfoddol, neu sy’n teimlo’n ynysedig ac a hoffai fanteisio ar y gwasanaeth hwn
Sue Jones, Swyddog Datblygu Cefnogaeth LeolFel Swyddog Datblygu Cefnogaeth Leol (LSDO) ar gyfer Cymru, rwy'n rhoi cefnogaeth uniongyrchol i ganghennau a gwirfoddolwyr. Gan adrodd i'r Swyddog Gweithredol, Leigh Jones, rwy'n gweithio o nghartref ac mae llawer o'm hamser yn cael ei dreulio yn cyfarfod â gwirfoddolwyr canghennau a'u helpu i gyflawni Hanfodion Cangen a fydd yn sicrhau bod pobl a effeithir gan MS yn derbyn yr un lefel o wasanaethau a chefnogaeth ledled Cymru. Rwyf hefyd yn cynnal dyddiau hyfforddi megis Darparu Cefnogaeth, cyflwyniad i Swyddogion Cefnogi MS newydd, a Chroeso i'r Gymdeithas ar gyfer aelodau newydd pwyllgorau cangen. Rwyf hefyd yn chwarae rhan mewn trefnu Dyddiau Diagnosis Newydd ar y cyd â staff meddygol proffesiynol sy'n ymwneud â thriniaeth ar gyfer MS. Fy nghefndir yw 16 mlynedd gyda'r Gymdeithas Strôc ac ar ôl pum mlynedd o fod allan o'r maes elusennau meddygol fel gofalydd i Mam, rwyf wrth fy modd ac yn teimlo'n gyffrous ynglŷn â'r rôl gyda Chymdeithas MS Wales/Cymru. Rwy'n siŵr bod y ffaith mod i wedi bod yn ofalydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi rhoi dealltwriaeth newydd i mi o ran y pethau a wynebir gan ofalwyr ac rwy'n edrych ymlaen at ddod â hwnnw i'm gwaith gyda'r canghennau a'r gwirfoddolwyr. Mae rôl y gangen wedi newid dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae nifer o heriau unigryw i'r canghennau yng Nghymru oherwydd, yn rhannol, y boblogaeth wasgaredig a'r ddaearyddiaeth, ond rwy'n siŵr y medrwn, trwy Gymdeithas MS Wales/Cymru, Rhwydweithiau Ardal Lleol a gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill, gyflawni ein hamcan o helpu pawb sy'n cael eu heffeithio gan MS yng Nghymru |
|
| Awdur ebost | N�l i'r brig | Hafan |
|