
|
 |
Beth yw MS?
MS yw'r cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin i effeithio ar oedolion ifanc. Mae MS ar tua 85,000 o bobl yn y DU.
Mae MS yn datblygu o ganlyniad i ddifrod i'r myelin ? pilen sy'n diogelu ffeibrau yn y system nerfol ganolog. Pan fo'r myelin yn cael ei ddifrodi, mae hyn yn effeithio ar y negeseuon rhwng yr ymennydd a rhannau eraill o'r corff. I rai pobl, cyfnodau o atglafychu ac ysbeidiau o ryddhad yw nodweddion MS, tra ei fod yn dilyn patrwm cynyddol i eraill. Mae'n gwneud bywyd yn anodd i'w ragweld i bawb. Fe welwch lawer mwy am MS yn ogystal ag ystod o ffynonellau gwybodaeth drwy fynd i Brif Wefan Cymdeithas MS.
Yr MS Society
Yr MS Society yw'r elusen fwyaf yn y DU sy'n cynnig cefnogaeth pawb y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan MS.
Rydym yn darparu Tai Ysbaid a Thai Gwyliau, llinell gymorth MS yn rhad ac am ddim, nyrsys MS arbenigol, grantiau i addasu tai a chymorthyddion symud o gwmpas, addysg a hyfforddiant, ac ystod eang o wybodaeth yn ein Canolfan Wybodaeth. Rydym hefyd yn ariannu dros 70 o brosiectau ymchwil yn y DU..
Mae ein canghennau lleol yn darparu ar gyfer pobl o bob oed a diddordeb ac maent yn cael eu rhedeg gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o MS.
MS Cymru yw’r Gymdeithas MS yng Nghymru, sydd yn arwain mewn datblygu strategaeth a pholisïau i’r gymuned MS ledled Cymru.
|  |

|

|